gwau

Dysgais i sut i wau yn 2006. Ma' pawb yn fy nheulu yn gwau, gwnïo a chrosio, felly dwi jyst yn parhau'r traddodiad!

Rydw i yn cynllunio patrymau gwau, ma' rhai ar gael yn rhad ac am ddim ar fy mlog. Gallwch weld rhagor o wybodaeth a lawrlwytho'r patrymau, trwy glicio'r lluniau isod.

 

     Blodau i Mam

 

      Llawfag gwaelod-CD
 

      Cwfl pluen estrys
 
 
      Cwfl gwenynen fach
 
 
      Shryg pluen estrys
 
 
      Bandiau arddwrn Tro
 
 
      Het pluen slowtsh

Ma' siop wlân ffantastig wedi agor yng Nghaerdydd, o'r enw Calon Yarns. Ewch i weld eu gwefan nhw, ac mae hefyd tudalen ar Facebook. Ma'r perchennog, Lynne, wedi gofyn i fi gynllunio cwpl o batrymau i werthu yn eu siop hi. Dwi wedi tynnu lluniau o'r dillad - cyflau a shrygiau yn bennaf, a bydd y patrymau yn barod erbyn Hydref/Gaeaf 2011. Fy nghasgliad gweuwaith cyntaf. Cyffrous!